header-bg.png

~ANIAN~

Gosodiadau a cherfluniau celf gain gan Sam Holland


Mae Anian yn ddathliad o fytholeg Brodorol Prydain ac Iwerddon trwy gerflunio. 

Wedi’i hysbrydoli gan chwedl hynafol Hanes Taliesin, y cyntaf yn y corff hwn o waith yw Cerridwen – Mam yr Awen. Cerridwen – Mam Ysbrydoliaeth.

Trawsnewid, tynged a helfa gwyllt

nature, texture, iceland, moody, photography, otherworldly iceland, underground, underworld, otherwordly, woodland,

Cerridwen – Mam Yr Awen

Mae'r gosodiad hwn yn nodi eiliad o gyfyngder o fewn Cerridwen - Bywyd a Marwolaeth, Llofrudd a Mam. Mae'n dal ei chorff yn yr ecstasi o drawsnewid yn ôl o iâr i Swynwraig - gan gwblhau un cylch a dechrau un arall.

Mae Cerridwen yn sefyll ar ei Phair ysbrydoliaeth ar foment y trawsnewid. Mae ei helfa gwyllt o Gwion Bach ar ben. Mae hi wedi newid rhith ei chorff o Swynwraig i filgi, o filgi i ddyfrgi, o ddyfrgi i hebog ac o hebog i iâr. Mae Cerridwen wedi bwyta'r hedyn a drawsffurfiodd o Gwion ac mae’r hedyn hwnnw wedi ffeindio’i ffordd i’w chroth ac wedi cychwyn ar daith arall - Stori Taliesin.

Cerridwen – mam ac awen y traddodiad barddol Cymreig. Mae ei dylanwad o fewn mytholeg frodorol, gwerin a diwylliant academaidd yn hynafol. Yn cael ei pharchu a'i dirmygu'n gyfartal trwy gydol hanes hir y traddodiad barddol Cymreig, bu Cerridwen yn gyson oddi fewn Cerdd Dafod a barddoniaeth o'r Cynfeirdd hyd heddiw.

Mae barddoniaeth yn rhan annatod o'r darn hwn. Daw hudoliaeth y gair lafar o ddyfnder y pair drwy lais - Kristoffer Hughes (awdur, derwydd, perfformiwr) wrth iddo adrodd Hanes Taliesin gan glymu’r cwlwm rhwng Mam yr Awen a'r Bardd.

Ac eto, mae Cerridwen yn parhau i fod yn gorfforol absennol o'r wlad a'r diwylliant y gwnaeth hi helpu i greu.

Rwyf wedi cael fy ysbrydoli gan Cerridwen i unioni’r diffyg presenoldeb hwn, a gosod y darn hwn fel cofeb barhaol iddi ar lannau Llyn Tegid.